£250,000 i adfer hen arferiad afalau Llandudoch

Coed afalau
Image caption Bydd coed afalau yn debyg i rhain yn cael eu plannu yn y pentref

Mae elusen yn Sir Benfro wedi cael arian i blannu 1,000 o goed afalau fel y rhai gafodd eu mewnforio gan fynachod sefydlodd abaty yn yr ardal dros 900 mlynedd yn ôl.

Pan ddaeth y mynachod i Landudoch o Normandi yn y 12fed ganrif, fe ddaethon nhw â choeden afal arbennig gyda nhw - Pig Aderyn - a'r bwriad nawr yw plannu yr un coed yn yr ardal wedi i hen berllan y fynachlog ddiflannu.

Elusen 'Hanes Llandudoch' sydd y tu ôl i'r cynllun tair blynedd, fydd yn gweld £250,000 yn cael ei roi i gefnogi'r gwaith gan Gronfa Fawr y Loteri. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Medi.

Mae Nia Siggins yn gweithio i'r elusen ac yn byw yn lleol, a dywedodd bod y syniad o ganlyniad i drafodaethau ynglŷn â sut i nodi'r cyswllt rhwng yr elusen yn Llandudoch a'r mudiad hanesyddol sy'n olrhain hanes yr Abaty yn Thiron o le y daeth y mynachod yn wreiddiol.

Image copyright Hanes Llandudoch

Ychwanegodd: "Dwy flynedd yn ôl drefnon ni i ddod yn ôl â faciwîs oedd wedi bod yn Llandudoch yn ystod y rhyfel. O'n nhw yn eu 80au ac o'n ni yn mynd a nhw o gwmpas yr ardal a nodi beth o'n nhw wedi gweld oedd wedi newid.

"Ac un o'r pethau oedd yn dod mas o'r trafodaethau oedd bod nhw yn dweud bod lot mwy o goed afalau pan o'n nhw yn blant.

"O'n nhw yn gofyn, 'Ble maen nhw wedi mynd?' 'Ble mae'r coed afalau i gyd wedi mynd'?"

Mae'n dweud y bydd y coed yn cael eu rhoi mewn gerddi a chaeau gerllaw gweddillion yr abaty, ac fe fydd cyfle i drigolion blannu coed yn eu gerddi.

"Sdim cyffinie i'r berllan yma. Ta ble i ni yn gweld tir wast byddwn ni yn trial plannu rhywfaint o goed a blodau gwyllt hefyd."

Bragu seidr

Fe fydd gweithdai hefyd yn cael eu cynnal i roi cyngor i'r gwirfoddolwyr ynglŷn â bragu seidr, rhywbeth roedd y mynachod yn gwneud flynyddoedd yn ôl ac sydd hefyd yn digwydd yn Normandi.

"Mae anecdote enwog iawn - daeth Esgob Tŷ Ddewi i Abaty Llandudoch un tro a darganfod bod rhai o'r mynachod yn meddwi yn rheolaidd," meddai Nia.

"Mae hwnna yn rhywbeth sydd wedi cael ei ddogfennu. Felly i ni yn gobeithio cael blend Mynach Meddw neu rywbeth."

Y gobaith yn y dyfodol yw gwerthu'r seidr.

Image copyright Cronfa'r Loteri
Image caption Nia (canol chwith) yn dathlu ar ôl derbyn y siec gan Cronfa Loteri Fawr

Ers cael gwybod bod y cais am arian wedi bod yn llwyddiannus dair wythnos yn ôl, mae sawl person wedi dangos diddordeb, ac mae Nia yn grediniol y bydd pobl y pentref yn cefnogi'r cynllun.

"Beth sydd yn grêt am y prosiect 'ma, mae'n dod a bob oedran at ei gilydd."Mae rhywbeth yn y prosiect hwn ar gyfer bob oedran, plant meithrin i bensiynwyr. Mae rhywbeth gallen nhw wneud i helpu ni gyda'r prosiect hwn."