Mwy o ffoaduriaid o Syria yn cyrraedd Cymru

Ffens yn Macedonia Image copyright Dan Kitwood
Image caption Mae 4.8 miliwn o bobl wedi gadael Syria fel ffoaduriaid, yn ôl Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig

Cafodd 34 o ffoaduriaid o Syria eu hail-gartrefu yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin eleni, yn ôl ystadegau newydd.

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 112 wedi cael cartrefi yng Nghymru - o'i gymharu â 249 yn yr Alban, a 104 yng Ngogledd Iwerddon, yn yr un cyfnod.

Fe ddywedodd Oxfam Cymru eu bod yn croesawu'r ffigyrau, ond bod y broses ail-gartrefu "yn boenus o araf".

Bellach mae naw awdurdod lleol wedi rhoi llety i ffoaduriaid, cynnydd o bedwar ers chwarter cyntaf 2016.

Blaenau Gwent, Caerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg ydi'r siroedd newydd sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ail-gartrefu.

Ble yng Nghymru mae'r ffoaduriaid o Syria yn aros?

  • Abertawe - 24 o ffoaduriaid
  • Blaenau Gwent - 5
  • Bro Morgannwg - 5
  • Caerffili - 7
  • Caerfyrddin - 5
  • Castell Nedd Port Talbot - 27
  • Ceredigion - 11
  • Rhondda Cynon Taf - 18
  • Torfaen - 10

Mae gan gynghorau sir eraill gan gynnwys Wrecsam ac Ynys Môn hefyd gynlluniau i groesawu Syriaid.

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Matthew Hemsley o Oxfam Cymru: "Ry' ni'n croesawu'r ffaith bod mwy o deuluoedd wedi cael lle diogel i aros yma, a 'dyn ni'n gwybod bod mwy o ffoaduriaid o Syria wedi cyrraedd yn ystod yr haf.

"Ond allwn ni ddim anwybyddu pa mor araf yw'r broses ail-gartrefu yng Nghymru."

Image caption Mi fuodd rhai o'r ffoaduriaid sydd yng Nghymru yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach ym mis Awst

Ychwanegodd: "Er bod rhywfaint o welliant yn y niferoedd sydd wedi cael cartref yma, does dim dwywaith y gallai Cymru wneud mwy, ac y dylai wneud mwy i helpu teuluoedd sydd â'u bywydau ar chwâl oherwydd y rhyfel yma.

"'Dyn ni'n gwybod bod 'na ewyllys, gan fod pob un o awdurdodau lleol wedi cytuno i gymryd rhan yn rhaglen ail-gartrefu'r Swyddfa Gartref.

"Nawr mae'n rhaid i ni weld y broses yn cyflymu drwy gydweithrediad agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol."