Caerdydd yn arwyddo'r golwr Ben Amos ar fenthyg

Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo golwr Bolton, Ben Amos ar fenthyg am y tymor.
Fe dreuliodd Amos ei gyfnod fel chwaraewr ieuenctid gyda Manchester United, gan chwarae saith gêm i'r clwb.
Ar ôl cyfnodau ar fenthyg gydag Oldham, Hull a Bolton fe symudodd Amos, sydd yn 26 oed, i Stadiwm Macron yn barhaol yn 2015.
David Marshall yw dewis cyntaf y clwb yn y gôl ar hyn o bryd, ond mae'r rheolwr Paul Trollope wedi bod yn awyddus i arwyddo golwr arall wedi i Joe Lewis a Simon Moore adael dros yr haf.
Mae perchennog Aston Villa, Dr Tony Xia hefyd wedi dweud bod y clwb wedi cytuno i adael i'r cefnwr chwith Joe Bennett symud i Gaerdydd am ddim.
Yn y cyfamser mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi cytuno i ddiddymu cytundeb y chwaraewr canol cae Kagisho Dikgacoi.