Ysgol Glantaf yn colli yn rownd derfynol cwpan rygbi 13

Rygbi Glantaf

Colli o drwch blewyn oedd hanes Ysgol Glantaf yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rygbi 13 Ysgolion Prydain brynhawn ddydd Gwener.

Hon oedd yr ail flwyddyn yn olynol i'r ysgol gyrraedd y rownd derfynol, a'r un oedd eu gwrthwynebwyr eto eleni, sef Ysgol Wade Deacon o Widnes.

Ar ddiwedd gêm agos, yr ysgol o Widnes aeth a hi o 14-16.

Er y siom, fe wnaeth Jack Boyd o Glantaf ddisgleirio a chael ei ddewis fel chwaraewr y gêm.

Wembley oedd lleoliad buddugoliaeth Glantaf y llynedd o 40-6, ond yn Richmond y cafodd y gêm ei chwarae eleni.

Roedd rhaid i fechgyn Glantaf ennill cyfres o gemau i gyrraedd y rownd derfynol, gan gynnwys yn erbyn tîm o Ysgol y Strade, Llanelli.