Y golffiwr Bradley Dredge ar y blaen yn Nenmarc

Bradley Dredge Image copyright Getty Images

Mae'r golffiwr Bradley Dredge ar y blaen mewn cystadleuaeth yn Nenmarc wrth iddo geisio ennill ar y lefel uchaf am y tro cyntaf ers bron i ddegawd.

Mae Dredge 13 ergyd yn well na'r safon yng nghystadleuaeth Made in Denmark yn Himmerland, a hynny dair ergyd yn well na Joakim Lagergren o Sweden sydd yn yr ail safle.

Mae'r gŵr 43 oed o Dredegar wedi ennill ddwywaith ar y lefel yma, yn 2003 a 2006.

Mae'r Cymro arall sy'n cystadlu, Jamie Donaldson ddwy ergyd yn well na'r safon, yn gydradd 31ain yn y gystadleuaeth.