Kit Symons yn dychwelyd i dîm hyfforddi Cymru

Kit Symons Image copyright Getty Images

Mae Kit Symons wedi dychwelyd i dîm hyfforddi Cymru i gymryd lle Paul Trollope ar ôl iddo adael i ganolbwyntio ar ei rôl newydd fel rheolwr Caerdydd.

Fe wnaeth Symons adael ei rôl gyda'r tîm cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2015 wedi iddo gael ei benodi'n rheolwr Fulham, ond cafodd ei ddiswyddo ym mis Tachwedd.

Mae cyn-golwr Cymru, Tony Roberts hefyd wedi ymuno â thîm hyfforddi Cymru, ond bydd yn parhau yn ei rôl yn Abertawe yn ogystal.

Daw'r newyddion wedi i'r hyfforddwr golwyr, Martyn Margetson gyhoeddi ei fod yn gadael Cymru i ymuno â thîm cenedlaethol Lloegr.

Bydd ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Bys 2018 yn Rwsia yn dechrau gyda gêm gartref yn erbyn Moldova ar 5 Medi.