Sussex yn trechu Morgannwg mewn gêm agos yng Nghaerdydd

Chris Nash Image copyright Huw Evans Agency

Fe wnaeth Sussex lwyddo i ennill o ddwy wiced yn erbyn Morgannwg mewn gêm gyffrous yng Nghaerdydd.

Llwyddodd i Ben Brown (42 heb fod allan) i lusgo'r ymwelwyr dros y llinell derfyn wedi i Timm van Der Gugten gymryd pum wiced i Forgannwg.

Fe wnaeth Brown a Danny Briggs (36) rannu sgôr bwysig o 55 ar gyfer yr wythfed wiced, tra bo Chris Nash wedi sgorio 64.

Yn gynharach, roedd ail fatiad y tîm cartref wedi dymchwel yn sydyn i sgôr o 263, gydag Aneurin Donald (59) yr unig un i wneud unrhyw gyfraniad sylweddol ar y diwrnod olaf.