Siop olaf BHS yng Nghymru yn cau yn Abertawe

BHS Abertawe Image copyright Wales News Service

Mae siop BHS olaf Cymru wedi cau ei drysau yn barhaol.

Yn ystod y bore roedd cannoedd o siopwyr eiddgar yno yn chwilio am fargeinion.

Cafodd gannoedd o swyddi eu colli yng Nghymru fel rhan o'r 11,000 a gollwyd ledled y DU ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill.

Ddydd Gwener, fe wnaeth staff y siop yn Abertawe wisgo crysau gyda'r geiriau 'NO MORE GREEN' arno, i watwar y cyn-berchennog, Syr Philip Green.

Roedd gan BHS chwe siop yng Nghymru, yn Abertawe, Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Casnewydd, Llandudno a Wrecsam.

Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd staff y siop yn gwisgo crysau gyda'r geiriau 'NO MORE GREEN' arno ddydd Gwener

Dywedodd rheolwr y siop ar Heol y Frenhines yn Abertawe, Steve Britten ei bod yn gyfnod emosiynol i'r staff.

"Rydyn ni wedi bod trwy'r emosiynau," meddai. "Fe gafon ni wybod yn swyddogol ar 22 Mehefin.

"Yn amlwg roedd hynny'n amser anodd am nad oedden ni'n gwybod beth oedd yn mynd ymlaen."

"Ni yw'r siop olaf yn y rhanbarth, ac rydyn ni'n eithaf balch o hynny - ni yw'r rhai olaf sy'n sefyll."