Cynghrair Genedlaethol: Dagenham & Redbridge 3-0 Wrecsam

Reid Image copyright Getty Images
Image caption Fe ddychwelodd Bradley Reid i dim Wrecsam heddiw ar ôl cyfnod yn Wolves

Roedd tair gôl Oliver Hawkins yn ddigon i drechu Wrecsam a danfon Dagenham a Redbridge i frig yr adran.

Fe ildiodd Wrecsam y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf, wrth i Hawkins ddychwelyd i'r tîm cartref ar ôl cael anaf diweddar.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yng nghanol y tabl, gydag wyth pwynt ar ôl chwe gem.

Caerfrog fydd yr ymwelwyr i'r Cae Ras ddydd Llun, wrth i Wrecsam wneud ymgais arall i ddringo tuag at hanner ucha'r adran.