Uwch Gynghrair Lloegr: Caerlŷr 2-1 Abertawe

vardy Image copyright Getty Images
Image caption Jamie Vardy yn dathlu ei gôl gyntaf y tymor hwn

Roedd goliau gan Jamie Vardy a Wes Morgan yn ddigon i guro Abertawe wrth i'r pencampwyr gipio'r pwyntiau.

Ar ôl hanner awr sgoriodd Vardy ei gôl gyntaf y tymor hwn ar ôl i Danny Drinkwater chwarae'r bêl dros amddiffyn yr ymwelwyr.

Daeth yr ail ergyd i obeithion Abertawe wrth i'r capten Wes Morgan ddyblu mantais Caerlŷr ar ol 52 munud.

Fe ildiodd Abertawe gic o'r smotyn hefyd - ond fe achubodd Lukasz Fabianski y sefyllfa wrth iddo atal ymdrech Riyad Mahrez.

Tua 10 munud o'r diwedd fe adfywiwyd Abertawe gan gôl Leroy Fer.

Ond roedd hi'n brynhawn anodd i dim Francesco Guidolin wrth i Gaerlŷr reoli'r meddiant a'r cyfleodd o flaen y gôl.

Image copyright Getty Images
Image caption Fer yn codi'n uwch na Morgan yn y glaw i sgorio