Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Reading

Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Peter Whittingham yn brwydro i Gaerdydd

Mae trafferthion Caerdydd yn gwaethygu ar ôl colli yn erbyn Reading yn y brifddinas.

Sgoriodd yr ymwelwyr ar ôl 86 munud - Yann Kermorgant â'r gôl allweddol.

Cafodd Gaerdydd sawl cyfle yn ystod hanner cyntaf anniben - Lex Immers yn penio dros y bar ddwywaith.

Roedd cefnogwyr Caerdydd yn aflonydd ers clywed am benderfyniad y clwb i werthu eu capten David Marshall i Hull City am £5 miliwn, ac roedd eu siom yn amlwg pan ddaeth y chwiban olaf.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ymdrech ofer Ben Wilson i atal gôl hwyr Reading