Bradley Dredge yn colli o un ergyd yn Nenmarc

Dredge Image copyright Getty Images

Mae'r golffiwr Bradley Dredge yn gobeithio cael lle yn nhîm Cwpan Ryder Ewrop ar ôl perfformiad da yn Nenmarc.

Fe ddaeth e'n ail yng nghystadleuaeth Made in Denmark yn Himmerland.

Thomas Pieters oedd yr enillydd, y golffiwr o Wlad Belg yn curo'r Cymro o un ergyd.

Mae Dredge yn gobeithio sicrhau lle yn nhîm Ewrop pan fydd y capten Darren Clarke yn cyhoeddi enwau'r tri chwaraewr olaf i ymuno a'i garfan Cwpan Ryder ar 30 Awst.

Image copyright Getty Images
Image caption Thomas Pieters yn cipio tlws Made in Demnark