Cynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Caerefrog

Sean Newton Image copyright Rex Features
Image caption Y capten, Sean Newton sgoriodd y gôl fuddugol gyda hanner awr yn weddill

Mae Wrecsam yn parhau'n ddiguro ar y Cae Ras y tymor yma wedi iddyn nhw drechu Caerefrog brynhawn Llun.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chic o'r smotyn John Rooney ar ôl i Anthony gael ei faglu yn y cwrt cosbi.

Ond roedd Caerefrog yn gyfartal o fewn 10 munud wrth i Richard Brodie guro'r golwr, Shwan Jalal i ganfod y rhwyd.

Fe sgoriodd Wrecsam y gôl fuddugol gyda hanner awr yn weddill wrth i'r capten, Sean Newton benio cic gornel Rooney heibio i'r Cymro, Kyle Letheren oedd yn y gôl i Gaerefrog.

Dyma oedd y tro cyntaf i reolwr Wrecsam, Gary Mills wynebu Caerefrog ers iddyn nhw ei ddiswyddo yn 2013.