Hedfan bachgen i'r ysbyty ar ôl disgyn ar greigiau

Traeth Abercastell Image copyright @clairmango

Mae bachgen wedi'i gymryd i'r ysbyty gydag anafiadau i'w ben ar ôl disgyn ar greigiau yn Sir Benfro.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Draeth Abercastell ychydig cyn 12:00 ddydd Llun.

Cafodd y bachgen ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn ambiwlans awyr.

Does dim gwybodaeth eto am ei gyflwr.