Gwrthdrawiad: Anafiadau difrifol i feiciwr modur

heddlu

Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau sy'n "newid bywyd", yn dilyn gwrthdrawiad ym Mryneglwys, Sir Ddinbych.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char BMW ar ffordd yr A5104, ychydig cyn 13.00 ddydd Llun 29 Awst.

Cafodd y beiciwr modur a anafwyd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke, yn Stoke-on-Trent.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i siarad â gyrrwr cerbyd lliw tywyll a gafodd ei oddiweddyd gan feic modur oren cyn y gwrthdrawiad.