Athletwraig yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio

Lauren Jeska

Bydd cyn-athletwraig o Bowys sydd wedi'i chyhuddo o geisio llofruddio dyn mewn stadiwm athletau yn Birmingham yn wynebu achos fis nesaf.

Fe wnaeth Lauren Jeska, 41 oed o Fachynlleth, ymddangos yn Llys y Goron Birmingham ddydd Mawrth trwy gyswllt fideo o'r carchar.

Mae Ms Jeska wedi'i chyhuddo o geisio lladd Ralph Knibbs, 51 oed, yn Stadiwm Alexander ym mis Mawrth.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i'r stadiwm yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Mae hi hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol i ddau ddyn arall, ac o fod â thair cyllell yn ei meddiant mewn man cyhoeddus.

Ni wnaeth Ms Jeska gyflwyno ple, ac mae disgwyl i'w hachos ddechrau ar 22 Medi.

Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Stadiwm Alexander yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu