Dyn yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus

Tap heddlu Image copyright PA

Mae dyn wedi gwadu achosi marwolaeth gŵr 50 oed trwy yrru yn beryglus.

Bu farw Roger Bevan, oedd yn drefnydd undeb lleol, wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr B4337 rhwng Cilcennin a Cross Inn yng Ngheredigion fis Gorffennaf y llynedd.

Mae Jack Weston, sy'n 22 oed ac yn dod o Tir Bach ger Cilcennin, wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn ac mae disgwyl i'r achos ddigwydd ym mis Ionawr.