Un o sêr Caerdydd yn symud i Hull City

David Marshall Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau bod y gôl geidwad David Marshall yn symud i dîm pêl droed Hull City.

Mae'r dyn 31 oed wedi chwarae i'r Adar Gleision 280 o weithiau ers ymuno gyda'r clwb yn 2009 ac yn cael ei weld fel un o sêr y clwb. Mae hefyd wedi chwarae'n rhyngwladol dros yr Alban.

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu yn gynharach ddydd Llun gan gyn-chwaraewr yr Adar Gleision, David Giles.

Dyw'r ffigwr ddim wedi ei gyhoeddi ond y gred yw ei fod wedi ei werthu am swm hyd at £5m.

'Trist' ei fod yn gadael

Mae Marshall wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Hull City.

Ond yn ôl David Giles mae'r clwb yn ei werthu "yn rhad".

"Dw i'n meddwl bod e'n jôc. Yn bersonol dw i'n meddwl bod David Marshall werth £8m, mae'n siŵr mwy na hynny i unrhyw glwb."

Ychwanegodd: "Maen nhw'n mynd i gael £3.5m ac maen nhw yn gwerthu fe yn rhad. Mae hynny yn dweud wrtha i le mae'r clwb yn mynd, sef nunlle," meddai.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol y clwb, Ken Choo bod y clwb yn drist ei fod yn gadael.

Ond ychwanegodd: "Roedden ni yn teimlo y byddai yn anghywir i fynnu y dylai aros am ei fod nawr yn gallu mynd yn ôl i chwarae yn yr Uwch Gynghrair."