Angladd ar alw

Mae ein ffordd o fyw wedi newid cymaint dros y blynyddoedd, diolch i dechnoleg. Ac mae datblygiadau technolegol yn newid y ffordd y mae angladdau'n cael eu cynnal hefyd, gyda rhai'n dewis ymuno dros y we.

Mae'r ffordd y mae pobl yn penderfynu cael eu claddu yn newid, meddai Hefin Williams sy'n drefnydd angladdau yng Nghwm Gwendraeth. Mae'n rhaid meddwl ymlaen at y dyfodol, ac edrych ar ddatblygiadau technolegol, meddai, a cheisio dyfalu sut angladdau fydd pobl yn dymuno eu cael ymhen deng mlynedd.

Image caption Roedd y trefnwr angladdau Hefin Williams ar raglen BBC Cymru 'A Very Welsh Undertaking'

"Mae 'na system o'r enw audio recorder, sydd ar gael mewn ambell i amlosgfa, yn golygu bod pobl yn gallu ymuno ag angladd yn fyw o lle bynnag maen nhw yn y byd, dros y we. Mae e ar gael yn amlosgfa Llanelli ar hyn o bryd.

"Mewn angladd wnaethon ni'n ddiweddar, roedd rhywun sy'n byw yn Seland Newydd yn gallu ymuno ag angladd ei Mam nôl yng Nghymru. Roedden ni'n anfon y linc a'r password iddi hi ac odd hi'n gallu gweld yr angladd yn fyw, gyda dim ond pedair eiliad o delay. Chi hefyd yn gallu ail wylio'r angladd ar y linc am saith diwrnod wedyn a chael DVD."

Gyda mwy o bobl yn gadael eu cynefin i fyw ac i weithio, a rhai theuluoedd yn methu fforddio i deithio'n ôl i'r angladd, neu'n rhy sâl i deithio, mae'r dechnoleg ddiweddara' yn dechrau profi'n boblogaidd iawn.

"Er bod tâl bach amdano fe, mae'n werth e i'r teuluoedd," meddai Hefin Williams. "Rydyn ni'n adeiladu Capel Gorffwys newydd ym Mhontyberem, ac y'n ni'n meddwl am y pethe fydd pobl mo'yn ymhen 10 mlynedd. Bydd pobl yn gallu gwylio dros y we, a rydyn ni'n gosod surround sound, wi-fi, a cables ar gyfer camerâu ac yn y blaen, mae'n rhaid meddwl ymlaen."

Image copyright O G Harries a'i feibion

'Cymry Cymraeg yn fwy traddodiadol'

Dechreuodd Hefin Williams yn y busnes pan oedd yn 15 oed. Mae'n cofio ei angladd cynta'. Roedd ganddo arholiad TGAU Drama yn y bore, ac angladd yn y prynhawn.

Cafodd gynnig i brynu'r busnes teuluol a dydy e ddim wedi edrych yn ôl. Mae natur yr hyn y mae pobl eisiau mewn angladd wedi newid llawer yn y ddeunaw mlynedd dwetha' meddai.

"Wnaethon ni un angladd lle oedd pawb mewn gwisg ffansi," dywedodd Hefin. "Mae rhai pobl yn dewis neuadd bentre' yn lle capel neu amlosgfa, ac yn cael bandiau i berfformio. Mae rhai yn gweld angladd yn fwy fel 'digwyddiad' i ddathlu bywyd rhywun, yn hytrach nag angladd traddodiadol.

"Efallai bod y Cymry Cymraeg yn dueddol o fod yn fwy traddodiadol ac yn fwy emosiynol mewn angladd.

"Mae 'pobl y filltir sgwâr', y rhai sy'n byw yn y pentrefi bach a'r ffermydd gwledig yn dueddol i gael angladd Eglwys a chladdu yn y fynwent. Ond r'yn ni'n gweld popeth yng Nghwm Gwendraeth, ac mae'r Cymry yn dechre newid hefyd, yn enwedig y rhai ifancach, maen nhw'n mo'yn pethe' gwahanol."

"Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni'n fodlon 'neud beth mae'r teuluoedd yn mo'yn o fewn rheswm, achos y teulu sy'n bwysig," ychwanegodd.

"Un o'r newidiadau mwya' yw'r dewis o gerddoriaeth. Mae pobl yn dewis cerddoriaeth personol wrth gerdded i mewn a ma's a mae mwy a mwy o bobl yn lico gwisgo'n lliwgar yn hytrach na du hefyd. Unwaith gafon ni angladd a doedd neb o gwbwl yn cael bod 'na, gan gynnwys y plant a'r wyrion, dyna oedd y dymuniad."

Gwasgaru'r llwch

Yn ogystal â'r ffordd y mae'r angladd yn cael ei gynnal, mae 'na newidiadau hefyd yn yr hyn sy'n digwydd i lwch y person wedi'r amlosgi. Er bod llawer yn dal i ddewis gwasgaru llwch yn y môr neu'n yr ardd, mae'n bosib i'w wasgaru o falŵn aer poeth neu drên stêm.

"Mae llwch yn beth mawr y dyddie 'ma," meddai Hefin. "Chi'n gallu ei anfon lan i'r awyr mewn roced tân gwyllt, rhoi e mewn i wydr, ffrâm llun neu fwclis. Gallwch chi ei wasgaru yn y môr neu'r parc, yn dibynnu ar ddiddordeb y bobl.

"Ond technoleg yw un o'r pethau sy'n galluogi'r newid fwyaf mewn angladdau ac mae'n rhaid bod yn barod i'r dyfodol."