Pennaeth Cymdeithas Adeiladu Principality i ymddiswyddo

Graeme Yorston
Image caption Mae Graeme Yorston wedi gweithio gyda'r cwmni ers 11 blynedd

Mae prif weithredwr Cymdeithas Adeiladu Principality wedi dweud y bydd yn gadael ei swydd y flwyddyn nesaf.

Mae Graeme Yorston wedi bod yn y rôl ers pum mlynedd, ac wedi gweithio gyda'r cwmni ers 11 o flynyddoedd.

Dywedodd ei fod yn ymddiswyddo er mwyn treulio mwy o amser gyda'i wraig a'i deulu.

"Dw i'n meddwl mai nawr yw'r adeg cywir i symud i'r bennod nesaf yn fy mywyd," meddai.

Y Principality yw cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, a'r chweched mwyaf yn y DU, ac mae ganddi asedau gwerth dros £8bn.

Eleni fe gyhoeddodd y cwmni bod eu helw wedi gostwng yn 2015, a hynny'n dilyn canlyniadau ariannol cryf yn 2014.

Straeon perthnasol