Abertawe'n arwyddo Alfie Mawson o Barnsley

Alfie Mawson Image copyright Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo'r amddiffynnwr Alfie Mawson o Barnsley ar gytundeb pedair blynedd.

Fe wnaeth y gŵr 22 oed sgorio saith gôl wrth i Barnsley ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Yn cyhoeddi'r cytundeb, fe wnaeth yr Elyrch ddisgrifio Mawson fel "un o'r amddiffynwyr ifanc mwyaf talentog yng Nghynghrair Lloegr".

"Mae dod yma yn gyfle anhygoel i mi," meddai.

"Mae'n gam mawr i fyny, hyd yn oed o'r Bencampwriaeth, ond mae'n gyfle y byddai'n cydio ynddo gyda'r ddwy law."