Atal diflaniad y cimychiaid: Canlyniadau 'calonogol'

Cimwch

Mae arwyddion canlyniadau "calonogol" yn yr ymdrechion i atal cimwch yr afon gwyn rhag diflannu yng Nghymru.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod prosiect arloesol yn golygu bod 4,000 o'r rhywogaeth, oedd mewn perygl, wedi eu magu a'u rhyddhau yma ers 2009.

Maen nhw'n canolbwyntio ar Afon Gwy sef cadarnle olaf y cimychiaid yng Nghymru.

Mae rhai'n darogan y gallai'r rhywogaeth ddiflannu'n llwyr erbyn 2030.

Ers yr 1980au mae'r niferoedd wedi bod yn lleihau a hynny oherwydd bod cimychiaid o Ogledd America wedi dod i Brydain.

Roedd y cimychiaid yma yn cael eu defnyddio ar gyfer eu cig. Ond fe wnaethant ledaenu yn eang ac roeddent yn dwyn bwyd y cimychiaid cynhenid o Gymru ac yn eu gwenwyno gyda haint marwol.

Dywedodd Oliver Brown, Swyddog Pysgota Cyfoeth Naturiol Cymru bod rhannau o'r wlad wedi colli rhwng 50-98% o boblogaeth cimwch yr afon gwyn.

Mae dirywiad y cimychiaid yn effeithio ar fioamrywiaeth yr afonydd ac ar greaduriaid eraill yn y gadwyn fwyd.

Image caption Dywed Oliver Brown bod y ddeorfa ger Aberhonddu yn fesur 'dros dro'

Mesur "dros dro" yw bwriad y ddeorfa ger Aberhonddu er mwyn atal y rhywogaeth gyfan rhag diflannu.

Gyda help elusen leol The Wye and Usk Foundation mae'r cimychiaid yn cael eu rhyddhau i ardaloedd arbennig 'arch' ac yn cael eu hamddiffyn gan rwystrau naturiol rhag unrhyw ymosodiad gan greaduriaid eraill.

Angen cynllun 'mawreddog'

Mae ymweliadau diweddar i'r ardal yn dangos bod y cimychiaid yn goroesi am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cael eu rhyddhau i'r afon.

"Os allwn ni greu digon o'r safleoedd arbennig 'arch' yma fe ddylai hyn rhoi ychydig yn fwy o amser i ni i feddwl am ddatrysiad i'r materion," meddai Oliver Brown.

"Rydw i'n obeithiol ynglŷn â'r gwaith rydyn ni'n gwneud. Mae'n rhywogaeth eiconaidd, yn arwydd o gynefin da mewn afon. Os ydyn ni'n colli'r cimychiaid yna dyna ddechrau'r diwedd.

"Ond mae'n rhaid i ni feddwl am gynllun reit fawreddog [i atal y dirywiad]."

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn obeithiol y gallen nhw wneud hynny.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhidian Thomas yn esbonio’r gwaith sydd yn digwydd yn y labordy

Bydd y myfyriwr doethuriaeth Rhidian Thomas yn cyflwyno ei waith ymchwil ar y cimychiaid sydd wedi dod i Gymru o wledydd eraill yn ystod trafodaeth ryngwladol ym Madrid ym mis Medi.

Dywedodd: "Mae'n sefyllfa eithaf difrifol ar gyfer y rhywogaeth gynhenid."

Ychwanegodd: "Beth fi'n neud ar gyfer fy noethuriaeth i yw edrych ar ba ffactorau neu nodweddion sydd yn benodol ar gyfer y rhywogaethau yma, sydd yn gwneud mor dda yn ymledu, a sut mae pethau fel heintiau, parasitiaid sydd yn dod gyda'r rhywogaethau hynny yn effeithio ar ein rhywogaethau cynhenid ni."

Y gobaith, meddai, yw deall y ffactorau yma yn well a datblygu ffyrdd i reoli'r sefyllfa.

Un dull sydd yn cael ei annog fwyfwy yw bod pobl sydd ar y dŵr, fel pysgotwyr a rhai sydd yn canŵio, yn gwneud yn siŵr bod eu hoffer yn sych ac yn lân ar ôl eu defnyddio er mwy ceisio atal lledaenu heintiau o un dalgylch afon i'r llall.

Yn ôl Oliver Brown mae'r neges yma yn "allweddol" am y gallai offer sydd ddim yn lân o afon heintus achosi marwolaeth poblogaeth gyfan o gimychiaid cynhenid mewn afon arall.