Jonny Williams yn dychwelyd ar fenthyg i Ipswich

Jonathan Williams Image copyright Huw Evans picture agency

Mae chwaraewr canol cae Cymru Jonathan Williams wedi dychwelyd ar fenthyg i Ipswich am y tymor.

Dyma fydd y pedwerydd gwaith i'r chwaraewr 22 oed symud i Portman Road ar fenthyg.

Mae Williams wedi bod gyda chlwb Crystal Palace ar hyd ei yrfa, ond wedi cael ei anfon ar fenthyg sawl gwaith er mwyn chwaraew'n fwy rheolaidd.

Roedd yn rhan o garfan Cymru yn ystod Euro 2016, ac mae ganddo 17 cap.

Chafodd o ddim ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Moldova'r wythnos nesaf fodd bynnag, oherwydd anaf.

Yn y cyfamser mae disgwyl i ymosodwr Cymru Hal Robson-Kanu arwyddo i West Brom, ar ôl iddo deithio yno ar gyfer prawwf meddygol brynhawn Mercher.