Hal Robson-Kanu yn arwyddo i West Brom

Hal Robson-Kanu Image copyright AP

Mae ymosodwr Cymru Hal Robson-Kanu wedi ymuno â chlwb West Bromwich Albion yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd y blaenwr wedi bod heb glwb ers gadael Reading ar ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl naw mlynedd gyda'r clwb.

Dros yr haf fe serennodd dros Gymru yn Euro 2016, gan sgorio yn y buddugoliaethau dros Slofacia a Gwlad Belg.

Mae nawr wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd â West Brom, gydag opsiwn i'w ymestyn am flwyddyn arall.

Cafodd y chwaraewr 27 oed ganiatâd i adael carfan Cymru brynhawn ddydd Mercher er mwyn cwblhau'r trosglwyddiad.

Mae'r tîm cenedlaethol yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer eu gêm gyntaf yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, a hynny yn erbyn Moldova yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.