Y Gwyll a'r ochr dywyll

Rich Harrington

Mae Y Gwyll yn arwain y ffordd unwaith eto gyda phedwar enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni.

Mae'r ddrama dditectif wedi cael ei henwebu ar gyfer y gwobrau 'Drama Deledu' a 'Cyfarwyddwr: Ffuglen', ac mae Richard Harrington a Mali Harries hefyd wedi cael eu henwebu yng nghategorïau'r Actor ac Actores gorau.

Roedd y gyfres hefyd wedi cael ei henwebu sawl gwaith yng ngwobrau 2014 a 2015.

Ond pam bod rhaglenni 'Celtic Noir' fel hon mor boblogaidd? Kate Woodward, Darlithydd Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n asesu eu llwyddiant:


Yr ochr dywyll

Gyda'u hestheteg dywyll, straeon sy'n cael eu datgelu'n araf a dyhead i ddatgelu ochr dywyll cymdeithas gyfoes, mae dramâu noir yn rhan annatod o arlwy ein sgrin fach erbyn hyn.

Ers y gyfres Ffrengig 'Spiral' yn 2006, mae dramâu mewn ieithoedd ar wahân i'r Saesneg wedi bod yn amlwg ar BBC4.

Gyda dyfodiad 'Forbrydelsen (The Killing)' i'r slot 21:00 nos Sadwrn bedair blynedd yn ôl, roedd dyfodiad Nordic Noir wedi'i ddatgan. Denodd cyfresi Sgandinafaidd fel 'Broen (The Bridge)' a 'Borgen' dros un miliwn o wylwyr yn rheolaidd, gyda'u llofruddiaethau ciaidd, cymeriadau cymhleth a chelfi chwaethus.

Ond erbyn hyn, mae siwmper wlanog Sarah Lund yn 'The Killing' wedi ei diosg, mae perthynas waith unigryw Saga a Martin yn 'The Bridge' ar ben, a chof miniog Kurt Wallander yn pallu.

Image caption Saga Noren (Sofia Helin) o gyfres 'The Bridge'

Ond i'r rheiny sy'n galaru am hynny, mae ôl a dylanwad 'Nordic Noir' i'w weld o hyd.

Mae 'Y Gwyll' wrth gwrs wedi cael derbyniad da yng Nghymru a thu hwnt, ond mae 'na ddatblygiadau cyffrous mewn ieithoedd eraill hefyd.

Roedd 'Corp & Anam' (Corff ac Enaid) yn troi o gwmpas bywyd tymhestlog proffesiynol a phersonol newyddiadurwr darlledu o'r enw Cathal Mac Iarnáin (Diarmuid de Faoite).

Mae'r gyfres Wyddeleg yn archwilio'r Iwerddon gyfoes, gyda Mac Iarnáin yn ymdrin â llygredd ymysg yr heddlu, troseddau yn erbyn plant ar-lein, a dirywiad y gwasanaeth iechyd.

At hynny, mae 'An Bronntanas' (Y Rhodd) - eto o stabl y darlledwr Gaeleg TG4 - yn ddrama ddwyieithog sydd wedi ei lleoli yng Nghonnemara. Roedd hi'n stori afaelgar - sy'n cynnwys llofruddiaeth, dirgelwch a brad - a'r golygu chwim yn gyfuniad pwerus.

Image caption Mae Corp & Anam yn rhoi darlun o'r Iwerddon gyfoes, gan ddelio â phynciau fel llygredd o fewn yr heddlu, troseddau yn erbyn plant a phroblemau'r gwasanaeth iechyd

'Gwreiddiau dwfn'

Ond nid y Gwyddelod yn unig sydd wedi mentro creu fersiwn o Noir, ond Albanwyr yr Ucheldir hefyd. Cynhyrchiad BBC Alba yw 'Bannan' (Clymau sy'n rhwymo) a dyma'r ddrama wreiddiol gyntaf i gael ei chomisiynu gan y sianel.

Mae'r gyfres yn dilyn hynt Mairi MacDonald (Debbie MacKay) sy'n dychwelyd i'r Ynys Hir (Skye) ar ôl torri pob cysylltiad â'r ynys wyth mlynedd ynghynt. Ond mae'r dychwelyd yn peri i glymau emosiynol a theuluol frigo i'r wyneb.

Er bod gwahaniaethu sylfaenol i'r cyfresi hyn, yr hyn sy'n gyffredin yw'r ffaith ddigamsyniol bod eu gwreiddiau wedi eu plannu'n ddwfn mewn ardaloedd penodol iawn.

Yn aml mae'r tirluniau - boed y rheiny'n fryniau anial, neu'n strydoedd cefn dinesig - yn adlewyrchu stadau meddyliol y prif gymeriadau.

O dre' Aberystwyth a Cheredigion yn 'Y Gwyll', i Galway 'Corp & Anam', o Gonnemara 'An Bronntanas' i Ynys Hir 'Bannan', mae'r ymdeimlad o gynefin, o filltir sgwâr, o fro, yn greiddiol i'r cyfresi.

At hynny, nid cynrychioli'r llefydd hyn yn unig a wneir, ond plethu straeon a mytholeg i'r tirluniau unigryw, gan greu fersiynau newydd o lefydd trwy ei hail-ddychmygu'n ddramatig.

A dyna sydd i gyfri am eu llwyddiant ysgubol - y ffaith eu bod ar un llaw mor benodol o ran lleoliad, ond bod y themâu maen nhw'n ymdrin â nhw yn oesol ac yn trosgynnu ffiniau iaith a daearyddiaeth.

Image caption 'Y Gwyll' sydd wedi ei henwebu unwaith eto am nifer o wobrau BAFTA Cymru

(Addasiad yw hon o erthygl gafodd ei chyhoeddi gan Cymru Fyw yn 2015)

Straeon perthnasol