Oes angen cymaint o gyfieithwyr?

Clustffonau a bysellfwrdd Image copyright Thinkstock

Gyda Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed ym mis Hydref 2016, mae cyfieithydd cyntaf yr hen Gyngor Sir Gwynedd yn edrych yn ôl ar y 'camau arloesol' a gymerodd llywodraeth leol yn y saithdegau i ddod â'r Gymraeg i ddefnydd cyhoeddus.

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1976 wrth i'r Swyddfa Gymreig, cynghorau sir a sefydliadau cyhoeddus eraill sefydlu unedau cyfieithu.

Erbyn hyn mae dros 500 o bobl yn gweithio yn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a'r gymdeithas yn cynnal arholiadau ac yn safoni gwaith cyfieithwyr.

Ond mae John Roberts, gafodd swydd Prif Gyfieithydd Gwynedd adeg ad-drefnu'r siroedd yn 1974, yn credu bod 'ysbryd arloesedd' y 1970au i normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg ar goll yng nghyrff cyhoeddus heddiw:


'Dechrau newydd dwyieithog'

Rhywbeth a ddigwyddodd yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol yn '74 oedd sefydlu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac roedd Gwynedd yn arbennig yn awyddus i ddefnyddio'r newid fel cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg.

Roedden nhw wedi etifeddu swyddogion o'r hen drefn, oedd yn ddigon Seisnig mewn gwirionedd, a than yn ddiweddar iawn cyn hynny, iaith swyddogol cyfarfodydd cyngor oedd y Saesneg. Drwy gynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r di-Gymraeg, cafodd y Cymry Cymraeg eu rhyddhau i fynegi eu hunain yn holl gyfoeth eu mamiaith.

Image copyright Cyngor Gwynedd
Image caption Aduniad o rai o gyfieithwyr Cyngor Gwynedd dros y blynyddoedd

Roedden nhw'n awyddus iawn i fynd gam ymhellach na jyst darparu cyfieithu ar y pryd ac eisiau galluogi swyddogion, a'u hannog, i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Unigolion, o bob plaid, oedd yn arwain y ffordd. Roedden nhw wedi penodi Ioan Bowen Rees yn ysgrifennydd y sir i hyrwyddo'r broses, a'i weledigaeth o oedd i alluogi cynghorau i weinyddu'n ddwyieithog.

Roedd Cymraeg y cynghorwyr blaengar yma mor raenus. Redd Tom Jones Llanuwchllyn er enghraifft yn gadeirydd y pwyllgor cyllid ac roedd 'na bapur gerbron oedd yn cynnig codiad cyflog i ryw swyddogion.

Dyma Tom Jones yn deud: "Mae hyn fel iro tin mochyn tew". Trïwch chi gyfieithu hynny ar frys!

Ond dyna'r math o gyngor oedd o.

To newydd

Beth oedd yno ar y dechrau oedd fi fel Prif Gyfieithydd (y swydd cyfieithydd llawn amser cyntaf mewn llywodraeth leol, ynghyd â Pam Jones yn Nyfed tua'r un adeg) a phump neu chwech o swyddi â swyddogaethau deublyg, sef Cyfieithwyr/Gweinyddwyr dan Hyfforddiant.

Eto, roedd hwn yn rhan o gynllun strategol y diweddar Ioan Bowen Rees fel ysgrifennydd y sir i Gymreigio Llywodraeth Leol.

Roedd o'n gwybod cystal â neb fel clerc yr hen Sir Benfro fod swyddogion yn reddfol Seisnig felly roedd o eisiau to newydd ac roedd o'n gweld y swyddi yma fel ffordd o ddod â nifer o swyddogion graddedig rhugl yn y Gymraeg i mewn i'r system a arferai weinyddu drwy gyfrwng y Saesneg, hyd yn oed yn yr ardaloedd Cymreiciaf, cyn 1974.

Y bwriad gwreiddiol oedd parhau â threfn yr hen Gyngor Môn a Sir Gaernarfon o gyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd llawn y Cyngor Sir a'r Pwyllgor Addysg yn unig. Pan awgrymwyd hyn mae'n debyg i'r Cynghorydd Wmffra Roberts gyhoeddi "gwnewch fel y mynnoch, ond dwi ddim yn bwriadu siarad unrhyw iaith heblaw'r Gymraeg ar unrhyw adeg yn y Cyngor hwn".

Roedd o'n gwthio ar ddrws agored a phenderfynwyd y byddai bob dim, pob pwyllgor, pob is-bwyllgor efo hawl i bobl siarad yn Gymraeg.

Un o'r peryglon mwyaf wrth gyfieithu ar y pryd yw defnyddio geiriau anghywir sy'n ymdebygu i'r gwreiddiol. Wn i ddim beth oedd cynghorwyr di-Gymraeg Gwynedd yn feddwl o gynlluniau newydd yr Adran Addysg i ddysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd "teaching punks through the medium of Welsh" gafodd ei gyfieithu, a chyfieithodd un o gyfieithwyr Gwynedd yr ymadrodd "fe nodwn i hyn" fel "we'll nod this".

Ond roedd y rhan fwyaf o bobl yn y cyngor yn siarad Cymraeg. Roedd 'na gnewyllyn o ryw 15% o aelodau di-Gymraeg, felly Cymraeg oedd y norm.

Cam 'yn ôl'

Pan roedd 'na newid eto yn 1996 nôl i lot o gynghorau llai, dwi ddim yn teimlo eu bod nhw wedi gafael yn yr ymdeimlad yna o arloesedd. I'r gwrthwyneb, bod pethau wedi mynd yn ôl o bosib yn yr ystyr o ysbryd cenhadol.

I'r graddau bod 'na genhadu, mae'n debyg mai Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi gafael yn y baton ers hynny ond, i ddechrau, mae o'n ganolog ac yng Nghaerdydd yn hytrach nag yn yr ardaloedd gwledig lle mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg.

Dwi wedi clywed swyddogion y Cynulliad yn dweud hyn i gyfiawnhau peidio cyfieithu rhywbeth: "This is a pre-consultation document so it's in English only". Mae hynny'n hollol groes i'r athroniaeth oedd gan Ioan Bowen Rees bod angen Cymreigio'r system.

Yng Nghymru mae'r gwasanaeth sifil yn Saesnig. Mae'r ganran o'r gwasanaeth sifil sy'n siarad Cymraeg yn brin iawn fel bod y cyfieithu a'r broses yma ar yr ymylon ac yn cael eu gweld o bosib fel dipyn o niwsans.

Mae pobl yn ei dderbyn o achos bod rhywun oddi fry wedi dweud eu bod nhw'n gorfod ond dydi eu calon nhw ddim ynddo fo a dyna oedd mor gyffrous am yr holl gyfnod cynnar.

Roedden ni eisiau normaleiddio'r Gymraeg fel ei bod ddim yn cael ei gweld fel rhyw atodiad ac roedden ni'n gwneud pwynt fel cyfieithwyr o ofalu bod pethau nôl mewn pryd er enghraifft fel bod neb yn gallu defnyddio hynny fel esgus i beidio gwneud rhywbeth.

Cerydd i'r Cynulliad

Rydw i'n dal i sefyll wrth yr hyn ddywedais i yn Narlith Goffa Hedley Gibbard yn 2005 wrth geryddu Llywodraeth Cynulliad Cymru am eu diffyg darpariaeth Gymraeg mewn cynadleddau honedig ddwyieithog ar hyd a lled Cymru:

"Beth ydy'r pwynt cyflogi cyfieithwyr ar y pryd i eistedd yn fud yn y gornel pan fo holl gyflwyniadau llafar y gynhadledd, yr arddangosion PowerPoint a'r cadeirio'n ddi-Gymraeg?

"Os ydi'r Cynulliad am wneud y Gymraeg yn 'iaith pawb' - man da i ddechrau fyddai addysgu eu hadrannau a'u cwangoau nhw eu hunain. Mae trefnwyr y cyfarfodydd hyn yn bobl glên ond yn hollol ddi-glem ynglŷn â mecanics cyfarfodydd dwyieithog.

"Mae hefyd yn hen bryd i gynrychiolwyr rhai o'n sefydliadau Cymreiciaf ddangos mwy o asgwrn cefn a pheidio ag anghofio'u Cymraeg pan fydden nhw yn teithio oddi cartref i gynadleddau o'r fath. Gydag eithriadau clodiw, mae nifer yn anghofio eu Cymraeg pan welant dyrau Bae Colwyn heb sôn am dyrau Amwythig."

Image caption Allai Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi o 'gamau arloesol' llywodraeth leol yn 1974?

Gellir darllen darlithoedd eraill sy'n trafod hanes cyfieithu yng Nghymru ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae'r gymdeithas yn apelio am unrhyw straeon neu atgofion perthnasol ar gyfer eu harchif, felly cysylltwch trwy'r wefan os oes gennych chi unrhyw wybodaeth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.