Cwmni bysiau GHA: Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus

Bws

Mae Comisiynydd Traffig Cymru wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i gwmni bysiau GHA.

Aeth y cwmni o ardal Wrecsam i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Gorffennaf ac fe gollodd 320 o bobl eu swyddi.

Mae gan y cwmni drwydded i yrru 146 o gerbydau yng Nghymru ac 80 yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Bydd yr ymgynghoriad yn edrych ar yr oruchwyliaeth o'r cwmni gan Asiantaeth y DVSA a chorff Defnyddwyr Bysiau Cymru.

Bydd y Comisiynydd Traffig hefyd yn edrych ar adroddiad y DVSA ynglŷn â sut roedd y cwmni'n cynnal safon y cerbydau.

Mae disgwyl i reolwyr trafnidiaeth y cwmni rhoi tystiolaeth yn ystod yr ymgynghoriad.