Cofio 100 mlynedd ers marwolaeth canwr clychau

Eglwys Sant Ioan Image copyright Google

Bydd clychau eglwys ym Mhorthmadog yn cael eu canu ddydd Sadwrn i gofio 100 mlynedd ers i ganwr y clychau farw yn y Rhyfel Mawr.

Bu farw Evan John Jones, oedd yn ganwr clychau Eglwys Sant Ioan, ar faes y gad yn Ffrainc ym mis Awst 1916.

Ar 3 Medi, 1916, canodd ei gyfeillion glychau'r eglwys er cof amdano.

Union 100 mlynedd yn ddiweddarach, bydd canwyr clychau gogledd Cymru yn canu'r un clychau i'w goffau.

Mae'r digwyddiad ddydd Sadwrn yn rhan o ddigwyddiad ehangach er cof am yr holl ganwyr clychau a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Image copyright Google