Dyn 26 oed wedi'i gyhuddo o geisio dwyn o fanc

Halifax
Image caption Fe ddigwyddodd yr ymgais i ddwyn yng nghangen Halifax ar Heol Albany

Mae dyn 26 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio dwyn o fanc mewn digwyddiad arfog yng Nghaerdydd.

Mae Jack Freeman wedi'i gyhuddo o geisio dwyn gydag arf, ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio wedi i ddyn geisio dwyn o fanc mewn digwyddiad arfog yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gangen Halifax ar Heol Albany yn ardal y Rhath am 12:50 ddydd Sadwrn, 20 Awst.

Cafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad, a ni chafodd unrhyw beth ei ddwyn.

Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd, cafodd Mr Freeman ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron y ddinas ar 30 Medi.