Alex Jones yn disgwyl babi yn y flwyddyn newydd

Alex Jones Image copyright Getty Images

Mae cyflwynwraig rhaglen The One Show, Alex Jones wedi cyhoeddi ei bod hi'n disgwyl babi.

Dywedodd ar wefan Twitter ei bod yn teimlo'n "lwcus iawn".

Fe wnaeth Ms Jones, 39 oed o Frynaman, briodi ei gŵr, Charlie Thomson ym mis Rhagfyr 2015.

Dywedodd ar Twitter ddydd Gwener: "Mae Charlie a minnau'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn disgwyl babi yn y flwyddyn newydd.

"Rydyn ni'n teimlo'n lwcus iawn ein bod ar fin bod yn rhieni."

Fe wnaeth Ms Jones astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd hi'n cyflwyno ar S4C am flynyddoedd cyn symud i Lundain gyda'r BBC.