Cymru dan-21 0-4 Denmarc dan-21

Wes Burns Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Wes Burns yw prif sgoriwr Cymru yn yr ymgyrch hyd yn hyn, gyda thair gôl

Mae tîm dan-21 Cymru wedi colli o 4-0 yn eu gêm ragbrofol dyngedfennol yn erbyn Denmarc ar y Cae Ras.

Roedd yn rhaid i dîm Geraint Williams drechu'r ymwelwyr er mwyn cynnal gobaith realistig o orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2017.

Ond roedden nhw ar ei hôl hi o 2-0 erbyn hanner amser yn Wrecsam diolch i goliau gan Marcus Ingvartsen a Pione Sisto.

Fe ychwanegodd Sisto drydedd toc wedi'r egwyl, cyn i Kasper Dolberg sgorio pedwaredd gydag wyth munud i fynd.

Cafodd Wes Burns a Harry Wilson gyfleoedd dros Gymru, ond ofer fu eu hymdrechion gyda'r ymwelwyr yn llwyr haeddu'r fuddugoliaeth.

Bydd y tîm dan-21 nawr yn wynebu Luxembourg nos Fawrth yn Stadiwm Nantporth ym Mangor gyda gobeithion o hyd o orffen yn ail yn eu grŵp.

Dim ond y tîm sydd yn gorffen yn gyntaf sydd yn saff o le yn Euro 2017, ac fe fydd pedwar o'r naw tîm fydd yn gorffen yn ail yn eu grŵp yn mynd trwodd i'r gemau ail gyfle.

Ar hyn o bryd mae Cymru'n drydydd yn y grŵp gyda 12 pwynt, un y tu ôl i Rwmania, gyda dwy gêm yn weddill.