Ffeinal ysgoloriaeth ryngwladol i soprano o Gymru

Mari Wyn Williams Image copyright Brian Tarr

Mae soprano o Gymru, Mari Wyn Williams wedi cael ei dewis ar restr fer o bump i ennill ysgoloriaeth operatig rhyngwladol.

Y gantores 34 oed, sydd yn wreiddiol o Lanberis yng Ngwynedd, yw'r unig un o Ewrop sydd ym mhump olaf y gystadleuaeth.

Fe fydd hi nawr yn teithio i Sydney i wynebu cantorion o Awstralia, Canada, Israel a Rwsia yn y ffeinal.

Bydd yr enillydd yn cael Gwobr Elizabeth Connell, sydd werth £11,300 ($20,000 o ddoleri Awstralia) a chyfle i gael clyweliad yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain.

"Fe ddechreuais i ganu yn yr Eisteddfod gyda fy nain pan oeddwn i'n ieuengach ac wedyn fe gesi wersi canu pan oeddwn i'n 17 - dyna pryd nes i ddarganfod bod gen i allu wrth ganu opera," meddai Ms Williams, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Mae'n fraint fawr cynrychioli nid yn unig Cymru, ond Prydain ac Ewrop. Mae'n dipyn o beth, ac yn cael ei redeg gan bobl dw i'n parchu'n fawr. Bydd yr holl enwau dylanwadol ym myd opera yn gwrando.

"Mae cael fy nghydnabod fel un o'r pump uchaf yn y byd am fy math o lais i yn wych."

Straeon perthnasol