Ulster 29-8 Dreigiau

Pat Howard Image copyright Getty Images
Image caption Pat Howard, a ymunodd dros yr haf, sgoriodd unig gais y Dreigiau

Mae'r Dreigiau wedi colli o 29-8 yn erbyn Ulster yn eu gêm agoriadol o'r tymor yn y Pro12.

Fe aeth yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen o 8-0 yn y Kingspan diolch i gais Pat Howard a chic gosb Nick MacLeod.

Ond fe frwydrodd Ulster yn ôl i arwain o 12-8 ar yr egwyl diolch i geisiau gan Robert Lyttle a Jacob Stockdale, ac throsiad gan Ruan Pienaar.

Fe gafodd Pienaar gais ei hun yn gynnar yn yr ail hanner, ac fe ychwanegodd Lyttle ei ail cyn i Rob Herring groesi i gwblhau'r fuddugoliaeth i'r Gwyddelod.