Gweilch 59-5 Zebre

Sam Parry Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe sgoriodd Sam Parry dri o geisiau'r Gweilch

Mae'r Gweilch wedi ennill yn gyfforddus gartref o 59-5 yn erbyn Zebre yn eu gêm agoriadol yn y Pro12.

Roedd y tîm cartref eisoes wedi sicrhau pwynt bonws erbyn hanner amser yn Stadiwm Liberty gyda dwy gais gan Sam Parry ac un yr un i Lloyd Ashley ac Ashley Beck.

Ychwanegodd Sam Davies bedwar trosiad ac un cic gosb i'r Gweilch, gyda'r bachwr Tommaso D'Apice yn sgorio i Zebre, i'w gwneud hi'n 31-5 ar yr egwyl.

Yn yr ail hanner fe sgoriodd Parry ei drydedd, gyda Dafydd Howells hefyd yn croesi a Ben John yn cael dwy gais i'w hun i gwblhau'r fuddugoliaeth.