Glaw trwm yn atal gêm Casnewydd

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Josh Labadie yn brwydro i reoli'r bêl yn y dilyw mawr

Cafodd gem Casnewydd yn erbyn Barnet ei atal oherwydd y glaw yn Rodney Parade.

Be benderfynodd y dyfarnwr roi'r gorau i'r gêm ar yr egwyl wrth i'r cae ddirywio.

Roedd Barnet yn ennill o gôl i ddim pan ddaeth diwedd cynnar i'r gêm.

Fe ildiodd Casnewydd yr unig gôl ar ol 23 eiliad.

Bydd yn rhaid i'r ddau dîm roi cynnig arall i gwblhau'r gêm cyn diwedd y tymor.