Gleision 34-16 Caeredin

Nick Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Nick Williams oedd seren y gêm

Fe gafodd y Gleision ddechrau da i'r tymor gyda buddugoliaeth o 34-16 yn erbyn Caeredin ym Mharc yr Arfau.

Yn ei gêm gyntaf i'r rhanbarth fe gafodd Steve Shingler gais cynnar fel rhan o'i gyfanswm o 15 pwynt, a daeth ceisiau eraill gan Nick Williams, Tomos Williams a chais cosb gyda Gareth Ancombe yn trosi dau ohonyn nhw.

Solomoni Rasolea sgoriodd unig gais yr ymwelwyr tra bod Duncan Weir wedi cicio 11 pwynt.

Shingler sgoriodd y cais cyntaf wedi wyth munud, ac fe giciodd un gic gosb a dau drosiad yn dilyn cais cosb - cafodd Jamie Ritchie gerdyn melyn am y drosedd arweiniodd at hwnnw.

Ond fe wnaeth Rasolea argraff hefyd drwy groesi am gais wedi 15 munud, ac ar yr egwyl dim ond 17-13 oedd mantais y Gleision.

Chwarter awr cyn y diwedd y croesodd Nick Williams - hynny wedi i Shingler a Weir gyfnewid ciciau cosb - ac fe groesodd y mewnwr Tomos Williams am gais arall i sicrhau pwynt bonws cyn y diwedd.