Brexit: 'Angen symud ymlaen' medd Carwyn Jones

Carwyn Jones

Mae'n rhaid i Gymru roi chwerwder yr ymgyrch refferendwm i'r neilltu a symud ymlaen, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Bu natur rhan helaeth o'r drafodaeth yn "blentynnaidd", meddai Mr Jones.

Ychwanegodd fod Cymru yn parhau i fod yn rhanedig ar ôl y bleidlais, er bod hi'n bosib goresgyn yr hollt yn y tymor hir.

Pleidleisiodd 52.5% o Gymry i adael yr UE ym mis Mehefin, gyda 47.5% yn pleidleisio i aros.

Mae'r BBC yn pwyso a mesur effaith y bleidlais ar bobol mewn cyfres arbennig ar draws gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein ddydd Llun.

Cwtogi rhyddid

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns y byddai rhyddid pobol o wledydd yr UE i ddod i Brydain yn cael ei gwtogi.

"Nid parhau a'i alw'n rhywbeth arall fydd hwn," meddai. "Ystyr Brexit yw Brexit, a'r canlyniad yw na fydd y rhyddid i deithio a gweithio yn bodoli yn yr un modd ag y mae ar hyn o bryd."

Image copyright Getty Images

Ymgyrchu i aros wnaeth Mr Cairns a Mr Jones ill dau. Dywedodd Mr Jones fod hi'n bryd i geisio uno'r wlad unwaith eto.

"Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o'r wleidyddiaeth ddilornus yma mae'r DU a gwledydd eraill wedi datblygu, a symud yn ôl at drafodaeth synhwyrol," medd Mr Jones.

"Dwi wedi ymladd etholiadau ond 'dwi heb weld unrhyw beth tebyg i'r ymgyrch refferendwm yma o'r blaen.

"Os dyma'r trywydd y bydd gwleidyddiaeth y DU yn dilyn, wedyn fe fyddwn ni'n troi'n gymdeithas ranedig, hallt, felly mae'n rhaid i ni ddod yn nol at drafodaeth synhwyrol, resymegol ac nid dilorni, galw enwau."

Image caption Dywedodd Alun Cairns y byddai rhyddid pobol o wledydd yr UE i ddod i Brydain yn cael ei gwtogi

Fe fyddai llwyddiant neu fethiant Brexit yn lliwio'r ffordd y bydd pobol Cymru'n gweld ei gyfnod wrth y llyw, ychwanegodd.

"Dwi'n ymwybodol iawn o hynny," meddai Mr Jones. "Mae'n her fawr, ry'n ni'n gwybod hynny, ond mae'n her ry'n ni'n gorfod wynebu."

Dywedodd Mr Cairns ei fod yn benderfynol o greu trefn newydd i gymryd lle'r hyn mae'n ei ddisgrifio fel methiant y model Ewropeaidd o hybu economi cymunedau tlotaf Cymru.

Mae Cymru wedi derbyn mwy na £4bn o Frwsel ers 2000 er mwyn annog twf yn economi gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Ond pleidleisio i adael wnaeth nifer o'r cymunedau hynny, meddai Mr Cairns, ac roedd angen system well.