Cymdeithas yn galw am fuddsoddi £100m yn y Gymraeg

Cymraeg

Mae mudiad iaith wedi galw am fuddsoddi dros £100m er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei tharged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon dogfen at Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ac at Lywodraeth Cymru gan ofyn am gefnogaeth ariannol sylweddol er mwyn sicrhau cynnydd cyflym yn nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg ac yng ngallu'r system i addysgu yn yr iaith.

Ymhlith y galwadau mae:

  • Cynllun "Dewch 'nôl" i Gymru ar gyfer athrawon sy'n siarad Cymraeg sy'n gweithio mewn gwledydd eraill;
  • Sefydlu ac ehangu canolfannau i'r hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir;
  • Cynllun i annog siaradwyr Cymraeg i ymuno â'r gweithlu addysg;
  • Adnoddau ychwanegol i wella sgiliau rhai sy'n hyfforddi i ymuno â'r gweithlu addysg.

Mae'r mudiad hefyd yn galw am nifer o fesurau er mwyn mynd i'r afael â'r hyn y maen nhw'n yn ei ddisgrifio fel "tanfuddsoddi difrifol yn y Gymraeg ym meysydd gwariant mawr", er enghraifft yr angen am gynnydd sylweddol yng nghanran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Mewn dogfen ddiweddar sy'n gosod targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Tra bo ein gweledigaeth yn un hirdymor, a bod nifer y siaradwyr yn rhywbeth y gellir ei fesur yn ystyrlon fesul cenhedlaeth, rhaid i ni weithredu a gosod y seiliau nawr. A rhaid i'r gweithredoedd hynny adlewyrchu maint ein huchelgais."

'Dyma'r cyfle'

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan: "Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am ei huchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, bydd rhaid cael buddsoddiad sylweddol ychwanegol. Fel arall, geiriau gwag yn unig ydyn nhw.

"Argymhellwn fod angen buddsoddiad o dros £100m ychwanegol er mwyn sicrhau bod targedau'r llywodraeth yn cael eu gwireddu, a daw manteision economaidd ac addysgiadol yn sgil y buddsoddiad hwn yn ogystal â buddion diwylliannol sylweddol.

"Heb os, ac fel mae'r llywodraeth yn cydnabod, mae'n rhaid buddsoddi'n sylweddol cyn gynted â phosibl er mwyn creu gweithlu addysg fydd yn gallu creu miliwn o siaradwyr.

"Mae gweinidogion wedi dweud hynny eu hunain. Nawr yw'r amser i fuddsoddi, dyma'r cyfle.

Mae'r gymdeithas hefyd yn dadlau y dylai'r llywodraeth sefydlu parciau busnes cyfrwng Cymraeg, darlledwr aml-blatfform Cymraeg newydd, a chorff newydd i hyrwyddo'r Gymraeg, a dyblu ei buddsoddiad yn rhaglen Cymraeg i Blant.

Straeon perthnasol