Cymru'n barod i ail-brofi'r wefr o Euro 2016

Ashley Williams Image copyright Getty Images
Image caption Ashley Williams yn dathlu sgorio yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016

Does gan gapten Cymru Ashley Williams ddim bwriad ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, yn wahanol i gapten Lloegr, Wayne Rooney.

Mae Rooney wedi dweud mai Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018 fydd ei bencampwriaeth olaf, ond mewn cynhadledd newyddion dywedodd Williams nad oedd ganddo fwriad dilyn.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd y bencampwriaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun wrth groesawu Moldova.

Dywedodd Williams, 32 oed, ei fod yn gobeithio y gallai symud o Abertawe i Everton dros yr haf ymestyn ei yrfa.

"Rwy'n hoffi meddwl hynny," meddai. "Dydw i ddim yn ymddeol heddiw.

"Rwy'n mwynhau chwarae dros Gymru, ac rwy'n bwriadu parhau i wneud hynny cyhyd ag sy'n bosibl."

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud y bydd e'n camu o'r neilltu wedi Cwpan y Byd 2018, ond dywedodd nad oedd ganddo fwriad gadael am swydd rheolwr Hull City.

Image caption Bu carfan Cymru yn ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul

Mae disgwyl y bydd pob tocyn wedi'i werthu ar gyfer gêm nos Lun wrth i Gymru geisio adeiladu ar eu llwyddiant yn Euro 2016 pan gyrhaeddon nhw'n rownd gynderfynol.

Dywedodd Coleman: "Mae'n bwysig i beidio mynd yn ôl at hynny o hyd, ond i ddefnyddio'r profiad i symud ymlaen i'r ymgyrch nesa gan wybod beth sydd angen gwneud i gymhwyso.

"Ar ôl blasu'r llwyddiant, rydym yn awchu i ddychwelyd... i gael y wefr a gawsom yn yr haf unwaith eto."

Ers symud i Everton, dywedodd Williams ei fod wedi dysgu gan y rheolwr Ronald Koeman er nad yw wedi cael llawer o gyfle yn y tîm cyntaf hyd yn hyn.

"Fel y dywedais i wrth symud, roedd e'n un o'r amddiffynwyr gorau i chwarae erioed. 'Dwi am geisio dysgu cymaint ag y galla i o'i wybodaeth."

Fe fydd Cymru heb wasanaeth Aaron Ramsey yn dilyn ei anaf yn chwarae i Arsenal, ac mae David Edwards wedi tynnu nôl o'r garfan oherwydd anaf arall.