Dyn yn cyfaddef llofruddio ei gymydog ym Mae Caerdydd

Century Wharf a Christine James Image copyright Google | Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd gorff Ms James ei ddarganfod yn ei fflat yn ardal Century Wharf

Mae dyn 36 oed wedi cyfaddef llofruddio ei gymydog 63 oed ym Mae Caerdydd ym mis Mawrth.

Fe wnaeth Kris Wade ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo o garchar yn Sir Gaerwrangon i bledio'n euog i lofruddio Christine James rhwng 20 Chwefror a 3 Mawrth eleni.

Cafodd corff Ms James ei ddarganfod yn ei fflat yn ardal Century Wharf wedi iddi fethu awyren o Faes Awyr Gatwick.

Dywedodd John Charles Rees ar ran yr amddiffyniad bod Wade yn cydnabod ei fod wedi defnyddio cyllell yn yr ymosodiad, ond nad oedd ganddo'r gyllell pan aeth yno.

Ychwanegodd bod yr erlyniad am honni bod cymhelliad rhywiol i'r ymosodiad, ond bod yr amddiffyniad yn gwadu hynny.

"Does gan fy nghleient ddim cof o'r digwyddiad," meddai Mr Rees.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn parhau i ymchwilio i'r cyswllt rhwng Ms James a Heddlu'r De cyn ei marwolaeth.

Bydd Wade yn cael ei ddedfrydu ar 22 Medi.