Cyhuddo dyn o ymosodiad hiliol yn y Gelli

Red indigo Image copyright Google
Image caption Tŷ bwyta Indiaidd o'r enw Red Indigo oedd lleoliad y digwyddiad yn gynharach yn y mis

Mae dyn yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o ymosodiad hiliol yn dilyn digwyddiad mewn tŷ bwyta ym Mhowys.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ bwyta Red Indigo yn y Gelli Gandryll tua 11:00 ar 1 Medi.

Mae'r dyn 31 oed, sy'n dod o'r dref, yn wynebu cyhuddiadau o ymosod, o droseddu ar sail hil, o ymosod ar heddwas a dau gyhuddiad o wrthsefyll arést.

Bydd y dyn yn ymddangos yn y llys ddydd Iau.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Cafodd dyn 39 oed o ardal Talgarth ei arestio am ddifrod troseddol, ond mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Dywedodd prif arolygydd dros dro Heddlu Dyfed-Powys, Matt Scrase, bod ymateb i droseddau hiliol yn "flaenoriaeth" i'r llu.