Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â char

A541 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A541 ger y gyffordd â'r A5118 ym Mynydd Isa

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ger Yr Wyddgrug.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A541 ger y gyffordd â'r A5118 ym Mynydd Isa toc wedi 10:00 fore Llun.

Dywedodd yr heddlu mai beic modur a char Ford Fiesta oedd yn y gwrthdrawiad, a bod y beiciwr modur wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ar ôl methu prawf cyffuriau, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd, ac mae'r heddlu yn annog unrhyw dystion i gysylltu trwy ffonio 101.