Parti Mabon mwy nid yw

Y mae amser i bob peth, amser i eni ac amser i farw medd Pregethwr yr Hen Destament a gallwn oll gytuno ynghylch un peth efallai. Mae popeth yn y byd bach yma'n feidrol ac fe ddaw terfyn ar bob dim.

Y cwestiwn sy gen i heddiw yw hwn. Ydy dyddiau'r blaid Lafur yn tynnu at derfyn? Rwy'n credu eu bod nhw a bod hi'n bryd i ni ffarwelio â phlaid a fu'n gymaint rhan o'n gwleidyddiaeth am ganrif a mwy.

Heb os, fe fydd plaid o'r enw 'Llafur' gyda ni am beth amser eto ond plaid wahanol iawn yw hi i'r un a arweiniwyd gan Hardie, Attlee, Wilson, Blair neu hyd yn oed Miliband.

Pam dweud hynny? Wel, mae Llafur erbyn hyn yn blaid sydd yn llwyr eiddo i'w haelodau ac mae'n anodd gweld sut y gall hynny newid yn y dyfodol. Hynny yw, ar ôl canrif mae'r actifyddion wedi llwyddo i ddod yn feistri ar eu plaid eu hun a go brin y byddant yn fodlon idlio'r awenau.

Dyna'r rheswm yr oedd Jeremy Corbyn yn gwrthod ymddiswyddo mewn amgylchiadau lle'r oedd hi'n ymddangos nad oedd dewis ganddo ond gwneud hynny.

Hyd yn oed pe bai Owen Smith yn ei drechu, a dydw i ddim yn llwyr ddiystyru'r posibilrwydd hynny, go brin y byddai ganddo'r gallu i roi'r aelodau yn ôl yn eu bocs. Dyw twrciod ddim am bleidleisio dros y Dolig a byw ar ofyn yr aelodau fyddai Owen.

Roedd pethau'n wahanol iawn trwy gydol yr ugeinfed ganrif gyda phob un arweinydd Llafur yn gwneud ei orau glas i ffrwyno dylanwad yr aelodau cyffredin.

Reit ar y dechrau doedd dim hyn oed modd i unigolion ymaelodi a'r blaid ei hun. Rhaid oedd ymuno ac un o'r cyrff oedd yn gysylltiedig â hi, undeb efallai neu gorff fel y Fabians, y blaid Gydweithredol neu'r ILP.

Pan agorwyd y drysau i aelodau unigol yn 1918 roedd eu dylanwad yn ddim byd o gymharu â phleidleisiau bloc barwniaid yr Undebau.

Yn eironig ddigon Tony Blair oedd yn bennaf gyfrifol am newid hynny. Roedd yntau o'r farn bod yr aelodau unigol ar y cyfan yn bobl gymedrol, canol y ffordd a fyddai'n fwy agored i'w brosiect Llafur Newydd na dinosoriaid yr undebau.

Efallai bod hynny'n wir, bryd hynny, ond daeth tro ar fyd ac mae'r newidiadau cyfansoddiadol a gyflwynwyd gan Blair yn golygu bod y chwith am deyrnasu a bod 'na fawr ddim y gall yr aelodau seneddol wneud ynghylch hynny.

Mae hynny'n gadael clamp o dwll lle ddylai tir canol ein gwleidyddiaeth fod. Degawd yn ôl roedd tair plaid, Llafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn brwydro dros y tir hwnnw.

Heddiw mae Llafur ar bererindod i'r chwith, y Ceidwadwyr yn cofleidio brexitiaeth ddigyfaddawd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cysgu mewn ogof yn rhywle. Pwy sy'n siarad dros y 48%? Pwy sy'n eiriol dros ddemocratiaeth gymdeithasol Ewropeaidd ei naws? Neb, ar lefel Brydeinig, hyd y gwelaf i.

Mae 'na wagle i'w lenwi a dyw gwagleoedd ddim yn para'n hir mewn gwleidyddiaeth. Fe ddaw rhywun i'w lenwi - ond pwy?