Galw am hwyluso'r broses faethu i Gymry Cymraeg

plentyn a gofalwr Image copyright Thinkstock

Mae angen i asiantaethau wneud mwy i hwyluso'r broses faethu i Gymry Cymraeg, yn ôl un ddynes sydd wedi bod wrthi ers dwy flynedd.

Dywedodd Judith Owen wrth raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bod y broses o fynd yn faethwyr yn gymhleth ac yn hir, ac o bosib yn rhwystr i deuluoedd Cymraeg.

Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig cael mwy o rieni maeth Cymraeg eu hiaith, er mwyn iddyn nhw, a'r plant oedd yn dod atyn nhw, allu teimlo'n gyfforddus yn cyfathrebu yn eu mamiaith.

"Mae'n brofiad sydd wedi rhoi pleser mawr mawr i ni fel teulu," meddai wrth drafod ei phrofiadau o faethu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cynlluniau ar y gweill i gysoni gwasanaethau, gan gydnabod pwysigrwydd rhoi plant sy'n siarad Cymraeg iaith gyntaf gyda gofalwyr Cymraeg eu hiaith.

'Llai hyderus'

Mae elusen Gweithio dros Blant eisoes wedi apelio'n ddiweddar am fwy o ofalwyr maeth, yn dilyn ffigyrau sydd yn awgrymu bod llawer ohonyn nhw'n symud cartref sawl gwaith y flwyddyn.

Mae Judith Owen o Ben Llŷn wedi bod yn maethu plant ers dwy flynedd bellach, gan ddweud ei bod hi wedi cael ei hysgogi i wneud hynny ar ôl gweld - yn ystod ei hugain mlynedd o brofiad yn y byd addysg - cymaint o blant a theuluoedd oedd angen help a chefnogaeth.

Mae pob plentyn, ag eithrio un y mae ei theulu wedi maethu, wedi bod yn siaradwyr Cymraeg - ond mae'n dweud nad yw'r opsiwn yna ar gael i lawer o blant.

'Proses gymhleth'

"Yn aml iawn, mae eu dewis nhw o gefnogaeth wedi bod yn gyfyng oherwydd diffyg iaith Gymraeg, a diffyg maethwyr Cymraeg," esboniodd.

"Dwi yn meddwl, fel Cymry, ein bod ni'n llai hyderus falle na'r Saeson, a'n bod ni falle ddim yn meddwl bod gynnom ni'r holl sgiliau sydd gynnom ni i'w gynnig, 'dan ni'n dueddol i feddwl eu bod nhw eisiau rhywbeth mwy."

Dywedodd fod y broses asesu yn un "eithaf cymhleth - proses hir ac yn golygu cydweithio efo un person annibynnol" megis cyn-weithiwr cymdeithasol.

Mae hi nawr yn ceisio annog yr asiantaeth y mae hi'n gweithio â nhw i wneud mwy i hwyluso'r broses ar gyfer darpar-faethwyr Cymraeg.

Image caption Mae Judith Owen yn bennaeth yn Ysgol Foel Gron ym Mynytho ger Abersoch

"Drwy'r broses yna, roedd o'n uniaith Saesneg... a fedrai weld hynny fel rhwystr i sawl teulu Cymraeg," meddai Judith.

"Mae'n rhaid i ni dderbyn [nad ydi llawer o deuluoedd yr ardal] yn cyfathrebu drwy'r Saesneg... dydi o ddim yn dod yn naturiol i ni."

Mae elusen Gweithio dros Blant eisoes wedi galw am fwy o ofalwyr maeth yn sgil ymchwil sydd wedi awgrymu bod bron i un o bob tri o blant maeth ym Mhrydain yn gorfod symud cartref o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Yn ôl yr elusen, mae symud cartref sawl gwaith yn amharu ar fywyd y plant, ac maen nhw wedi galw am ddod o hyd i filoedd o ofalwyr maeth newydd allai ddarparu cartref saff a sefydlog i'r plant hynny.

Gwasanaeth Cymraeg

Rheolwr Tîm Maethu Gwynedd yw Mari Thomas. Pwysleisiodd hi wrth raglen Y Post Cyntaf bod modd mynd drwy'r broses faethu gyda'r awdurdod yn uniaith Gymraeg: "Fel awdurdod lleol, mae'n gweithwyr cymdeithasol ni i gyd yn gorfod siarad Cymraeg.

"Felly, unrhyw berson sy'n dod at Gyngor Gwynedd efo diddordeb mewn maethu, mi rydan ni'n gallu eu sicrhau nhw fod y broses - yr asesiad, y gefnogaeth maen nhw'n gael, yr hyfforddiant - mae o'n gallu cael ei gynnal yn uniaith Gymraeg.

"Mae yna brinder maethwyr. Yng Ngwynedd, mae gynnon ni 64 o ofalwyr maeth cyffredinol, ac allan o'r 64 yna, mae 37 ohonyn nhw lle mae'r aelwydydd lle mae yna Gymraeg yna.

"Mi faswn i'n croesawu mwy."

Cydnabod pwysigrwydd

Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydym yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd gosod plant sy'n derbyn gofal a sy'n siarad Cymraeg iaith gyntaf gydag gofalwyr maeth Cymraeg eu hiaith. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn rhaid i awdurdodau lleol ei ystyried wrth recriwtio gofalwyr lleol a phenderfynu ym mhle i roi plentyn.

"Rydym yn cydweithio â llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill er mwyn datblygu a chyflwyno Fframwaith Maethu Genedlaethol i gydlynu gweithgareddau ar draws Cymru, mewn meysydd fel recriwtio gofalwyr maeth a rheoli perfformiad gwasanaethau maethu, a hyrwyddo arferion mwy cyson.

"Bydd recriwtio gofalwyr maeth yn ystyriaeth allweddol i asiantaethau maethu, a bydd cynyddu nifer y rhieni maeth sy'n siarad Cymraeg yn rhan o'r gwaith hwn."