Joe: Gôl gyntaf 'yn deimlad gwych'

Joe Allen Image copyright Getty Images
Image caption Ei hanner foli o wedi 44 munud oedd gôl gyntaf Joe Allen i Gymru mewn 32 cap

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, wedi disgrifio sgorio'i gôl gyntaf dros ei wlad fel "teimlad gwych".

Fe rwydodd Allen ail gôl Cymru yn erbyn Moldova gyda hanner foli o ymyl y cwrt cosbi funud cyn hanner amser.

Sam Vokes roddodd y cochion ar y blaen wedi croesiad cywir Gareth Bale - cyn i Bale ei hun sgorio dwy yn yr ail hanner mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Roedd rhaid i Allen ddisgwyl tan cap rhif 32 cyn iddo sgorio am y tro cyntaf i Gymru, a dywedodd ei fod yn falch o gael ei gôl o'r diwedd.

"Dwi wedi bod yn aros yn hir iawn i gael y gôl, ac mae'n deimlad gwych", meddai.

"Gobeithio y galla' i gael ambell gôl eto."

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd gôl Allen groeso gwresog gan ei gapten, Ashley Williams

Fe ddywedodd Allen bod y perfformiad wedi plesio'r garfan.

"Wrth gwrs, y targed oedd i gael y triphwynt", meddai.

"Fe wnaethon ni ei wneud e'n gyfforddus a dyna'r ffordd oedden ni eisiau ei wneud e.

"Gobeithio nawr fydd hynny'n help i ni wrth fynd ymlaen i'r gemau y mis nesaf."

Mae tîm Chris Coleman yn wynebu her galetach yn eu gornest nesaf yn erbyn Awstria yn Fienna ar 6 Hydref.

Fe gafodd yr Awstriaid hefyd ddechrau cadarnhaol i'w hymgyrch, gyda buddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn Georgia.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe rwydodd Gareth Bale ddwy waith i Gymru yn erbyn Moldova

Yn ôl is-reolwr Cymru, Osian Roberts, mae gan y garfan "sylfaen dda i adeiladu arno" cyn mynd i Fienna.

"Mae'n anodd pan mae timau'n dod ac amddiffyn yn ddwfn," meddai.

"Ac ar brydiau yn y gorffennol, 'dan ni wedi ffeinidio hi'n anodd iawn i dorri timau i lawr.

"Ond 'dan ni wedi sgorio pedair gôl heno felly 'dan ni'n blês iawn.

"Mae'n sylfaen dda i adeiladu arni."