Cynllun i drawsnewid marchnad Hwlffordd yn llyfrgell

Llyfrgell Hwlffordd Image copyright Cyngor Sir Benfro

Mae disgwyl i Gyngor Sir Benfro benderfynu ar gynlluniau i drawsnewid marchnad dan do Hwlffordd ddydd Mawrth.

Gobaith y cyngor yw troi adeilad marchnad Glanyrafon yn y dre yn llyfrgell, oriel a chaffi.

Mae'r awdurdod wedi cael grant o £285,000 gan Lywodraeth Cymru tuag at y cynllun gwerth £3.4m.

Mae 'na argymhelliad i bennaeth cynllunio'r cyngor gael y grym i gymeradwyo'r cynllun wedi i ymgynghoriad ddod i ben.

Yn ôl y cyngor, fe allai'r llyfrgell newydd gyfrannu tua £1m i'r economi leol yn ogystal â chreu 15 o swyddi newydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 13 Medi.

Image copyright Cyngor Sir Benfro
Image caption Delweddau pensaer o'r tu mewn i'r llyfrgell
Image caption Yr oriel luniau