Lee Byrne yn ymuno â'r South Wales Ironmen

Lee Byrne Image copyright Getty Images
Image caption Lee Byrne yn chwarae i dîm rygbi'r undeb Cymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd 2011

Mae cyn gefnwr Cymru a'r Llewod, Lee Byrne, wedi cael ei benodi'n gyfarwyddwr tîm rygbi'r gynghrair South Wales Ironmen.

Ar ôl chwarae am ddegawd o dan yr enw South Wales Scorpions, mae'r clwb erbyn hyn wedi cael ei ail frandio.

Maen nhw hefyd am symud i Barc Chwaraeon y Wern, cartref Clwb Rygbi Merthyr.

Roedd Byrne yn aelod o dîm rygbi'r undeb Cymru wnaeth gipio'r gamp lawn yn 2008 ac fe chwaraeodd i'r Gweilch, Dreigiau Casnewydd a Clermont Auvergne.

Fe benderfynodd ymddeol o'r gêm 15 bob ochr yn Ebrill 2015 ar ôl cael anaf i'w ysgwydd.

Mae disgwyl hefyd i'r Ironmen gyhoeddi eu bod wedi arwyddo chwaraewyr newydd o Awstralia a Seland Newydd ddydd Mawrth.

Bydd y clwb yn chwarae yn Adran 1 o'r Kingstone Press League, dwy adran yn is na'r Super League yn 2017.