Trafferthion Gŵyl Rhif 6: 'Gwersi i'w dysgu'

robin
Image caption Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr pentref Portmeirion wedi dweud fod "gwersi i'w dysgu" yn dilyn problemau yn ymwneud â'r tywydd yn ystod Gŵyl Rhif 6 eleni.

Gyda'r rhestr artistiaid gorau eto eleni, roedd trefniadau'r ŵyl, yn ôl Robin Llywelyn, yn mynd yn berffaith, tan i'r glaw ddechrau pistyllio i lawr ddydd Sadwrn.

Mae Mr Llywelyn yn poeni fod atgof rhai pobl o'r ŵyl wedi suro braidd, oherwydd y llanast yn sgil y tywydd garw.

"Mae'n bechod fod yr holl drefniadau wedi mynd dan gysgod y llanast yn y maes parcio, ac mewn un ystyr, mae hynna yn mynd i fod yn gysgod dros Gŵyl Rhif 6 eleni," meddai.

"Yn y pendraw, 'da ni angen sefydlu'r ŵyl 'ma, naill ai fel rhywbeth dros dro a'n bod ni'n cymryd ein siawns [efo'r tywydd], neu yn rhywbeth parhaol... fel y sioe fawr, sydd wedi gosod llwybrau ac is-adeiladwaith parhaol.

"Os ydi hi'n mynd i barhau am y tymor hir, mae'n rhaid iddi gael sylfaen iawn, oherwydd doedd y cae mawr ddim ffit i bobl gerdded drosto nos Sadwrn a dydd Sul.

"Mae'n rhaid sortio'r adnoddau parcio allan hefyd. Mae pobl ffordd hyn yn gwybod fod traeth Porthmadog yn gorlifo weithia'...mae'n rhaid ffeindio rhywle lle mae pobl yn ddiogel yn eu ceir.

"Fe fydd yn rhaid hefyd cael mwy o fatiau a gorchuddion ar y cae ac ar lawntydd yn y pentref fel nac ydi'r mwd yn codi."

Image caption Degau o geir yn dal ar safle maes parcio Gŵyl Rhif 6 ddydd Mawrth

Mae'r gwastadoedd ger Afon Glaslyn yn adnabyddus yn lleol fel ardaloedd sy'n gor-lifo yn dilyn glaw trwm.

"Y broblem ydi," meddai Mr Llywelyn, "fod 'na brinder o lefydd addas yn yr ardal ar gyfer miloedd o geir.

"Mae'r lle sydd ganddyn nhw yn berffaith oni bai ei fod o'n dueddol o orlifo, ac mi oedd yr ŵyl wedi dewis y rhannau gora o'r tir hwnnw - os oes 'na fai ar rywun, mae 'na fai ar Dduw mae'n siŵr am greu cymaint o fryniau.

"Mi fydd 'na dipyn o waith rŵan, mi fydd 'na waith adfer y tir, ac fe fydd na waith i dwrneiod yr ŵyl drafod efo pobol yswiriant ceir mae'n siŵr, ond yn sicr mae 'na fwy o waith adfer y tir ym Mhortmeirion ac yn y meysydd parcio eleni na sydd wedi bod o'r blaen.

"Mae hyn wedi profi y bydd yn rhaid edrych ar gynllun arall, ond mae hynny rhwng y trefnwyr, yr awdurdodau, yr heddlu a thir feddianwyr lleol.

'Tractors yn corddi'r tir'

"Mae 'na le i ddadlau y bysa trefn well wedi gallu cael ei wneud o dynnu'r ceir allan ar y dechrau, achos aeth na rhai o'r tractors i mewn heb i neb ddweud a chorddi'r tir 'chydig bach, ond unwaith y gwnaethon ni sefydlu rhywfaint o drefn, mi oedd y ceir yn llifo allan yn weddol rhwydd a dwi 'sho talu teyrnged i'r ffermwyr sydd wedi bod yn helpu."

Image caption Cafodd tua 200 o breswylwyr yr ŵyl loches yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn yn y dref nos Sul.

Gormod o bobl?

Roedd rhan helaeth o'r pentref a'r adeiladau ar agor i'r cyhoedd, ac eglurodd Mr Llywelyn am y llanast oedd ymwelwyr wedi ei adael mewn rhai mannau fel y Gwesty a Chastell Deudraeth.

"Da ni isho'r ŵyl yn ôl yma, ond dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i ni newid y trefniadau ar gyfer blwyddyn nesa," ychwanegodd: "Efalla' fod 'na ormod o bobl yn dod erbyn hyn.

"Dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i ni gau adnoddau fel y castell a'r gwesty i ffwrdd, a'u cadw ar gyfer pobl sy'n bwcio bwrdd yn unig, fel bod rhai yn gallu mwynhau'r llefydd yma, a'u bod nhw ddim yn cael eu difetha, achos 'da ni'n methu ail-agor y lle yn syth wedi'r ŵyl i bobl eraill sydd am fwcio'r lle.

"Ar ddiwedd y dydd mae Gŵyl Rhif 6 yn dod â breuddwyd Syr Clough Williams-Ellis yn fyw, ac yn gwneud y pentref yn rhywle lle mae pobol yn mwynhau, ac ddim fel rhyw amgueddfa lychlyd.

"Mae ysgol brofiad yn ysgol ddrud weithiau, ond mae'n rhaid i ni wneud yn saff ein bod yn dysgu gwersi a chael gwerth ein pres o'r wers y dysgon ni eleni."

Dywedodd un o drefnwyr yr ŵyl, John Draper, wrth BBC Cymru ddydd Mawrth bod "dim amheuaeth o gwbl y bydd yr ŵyl yn dychwelyd y flwyddyn nesa'" er bod angen adolygu popeth.