Angen cydweithio i atal 'argyfwng' ariannu parciau

Parc

Mae adroddiad newydd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn galw am gynllun cydweithredol cenedlaethol er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd i ariannu a rheoli parciau Cymru er mwyn osgoi "argyfwng".

Mae'n rhybuddio y gallai pobl orfod talu am fynediad i barciau yn y dyfodol, ac fe allai safonau'r parciau ddirywio os na fydd cyrff cenedlaethol a lleol yn darganfod ffyrdd newydd o'i hariannu.

Dywed Cronfa Treftadaeth y Loteri fod rheolwyr parciau Cymru'n disgwyl gweld cwtogi pellach yn eu cyllidebau, gyda gostyngiad o 159% mewn staff sydd gyda'r sgiliau perthnasol dros y tair blynedd nesaf.

Dim ond canolbarth Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n disgwyl gweld toriadau uwch i'w cyllidebau.

'Buddsoddiad'

Ychwanegodd yr adroddiad y gallai buddsoddiad o £37m mewn parciau gael ei golli os na fydd dim yn cael ei wneud am y sefyllfa.

Mae'r adroddiad 'Cyflwr Parciau Cyhoeddus Prydain 2016' yn dweud fod arian gan y Gronfa wedi gwella cyflwr cyfleusterau a nodweddion hanesyddol parciau, ond bod hyn dan fygythiad o achos dirywiad a chyfleusterau oedd yn cau.

Dywed yr adroddiad y gallai rheolaeth ar y parciau fod yn fwy amrywiol yn y dyfodol, gyda chyfleoedd masnachol ag ymgyrchoedd codi arian yn ffyrdd angenrheidiol o gynnal safonau.

Yng Nghymru, roedd 80% o gynghorau'n disgwyl gweld toriadau cyllid o 10% neu fwy dros y tair blynedd nesaf, ac roedd disgwyl i 70% o barciau ddirywio dros yr un cyfnod.

Roedd 90% o gynghorau'n rhagweld y byddai'n rhaid codi arian ar y cyhoedd am wasanaethau, gyda 60% am godi arian o ddigwyddiadau a 40% am godi arian o weithgareddau masnachol.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n defnyddio parciau dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda 57% o oedolion ar hyd a lled Prydain yn ymweld â pharc unwaith y mis (cynnydd o 3%) - mae'r ganran yma yn codi i 90% ymysg rhieni ar blant o dan bump oed (cynnydd o 7%).

Caerdydd

Cafodd dinas Caerdydd ei disgrifio fel enghraifft lle roedd mwy o gydweithio'n digwydd, gan nodi fod cyllideb ar gyfer parciau'r ddinas wedi cwtogi o draean - £2.3m - dros y ddegawd ddiwethaf.

Dywed yr adroddiad fod y gwasanaeth parciau yno wedi gweithio i "greu modelau delifro amgen" ar gyfer rhai gwasanaethau, yn enwedig chwaraeon awyr agored.

Meddai'r adroddiad: "Mae'n datblygu agwedd mwy masnachol mewn meysydd fel rheoli coed, cynnal a chadw gerddi a chynhyrchu planhigion.

"Mae na berthynas gref yn bodoli rhwng cyfeillion y parciau/grwpiau cymunedol, sydd wedi cynhyrchu dros 25,000 o oriau gwirfoddoli yn 2015/16."

Dywedodd pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, Richard Bellamy: "Mae miloedd o bobl ar hyd Cymru'n ymweld â'u parciau lleol yn ddyddiol. Mae'r parciau'n cael eu gwerthfawrogi am y manteision corfforol ag emosiynol y maen nhw'n eu cynnig."

Ond ychwanegodd: "Mae'r cyfnod hwn yn un heriol yn ariannol ac os ydym am lwyddo i atal dechrau unrhyw ddirywiad ag osgoi gwastraffu'r buddsoddiad, rhaid dod at ein gilydd nawr er mwyn darganfod modelau cynaliadwy a newydd o ariannu a chynnal y llefydd cymunedol hyn sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint."