Gobeithion Cymru dan-21 o gyrraedd Euro 2017 ar ben

Jake Charles Image copyright Rex Features
Image caption Jake Charles (ar y chwith) yn chwarae dros Huddersfield

Mae gobeithion tîm dan-21 Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2017 ar ben yn dilyn gêm gyfartal siomedig yn erbyn eu cyfoedion o Lwcsembwrg brynhawn Mawrth.

Doedd yr ymwelwyr i Stadiwm Nantporth ym Mangor ddim wedi ennill gêm yng Ngrŵp 5, ond fe aethon nhw ar y blaen wedi 15 munud drwy Kevin Kerger.

Cyn yr egwyl fe allai pethau fod wedi mynd yn waeth pan ildiodd Tom Lockyer gic o'r smotyn drwy lawio'r bêl yn y cwrt, ond llwyddodd golwr Cymru, Billy O'Brien, i arbed cynnig Ricardo Pinto o'r smotyn.

Fe wellodd pethau rhyw fymryn wedi'r egwyl gyda Chymru'n gorfodi cyfres o giciau cornel a sawl arbediad gan golwr Lwcsembwrg.

Ond ni ddaeth gôl nes y funud olaf o'r 90 pan sgoriodd yr eilydd Jake Charles - ŵyr y cawr John Charles yn gwneud ei farc ar faes rhyngwladol.

Yn y pum munud ychwanegwyd am anafiadau, roedd ambell hanner cyfle arall, ond doedd pwynt ddim yn ddigon da i gadw Cymru yn y gystadleuaeth.

Maen nhw bellach yn bedwerydd yn Grŵp 5 gydag un gêm yn weddill.

Mae Denmarc ar y brig a gan fod Romania a Bwlgaria yn chwarae'i gilydd does dim modd i Gymru orffen yn y ddau uchaf a chael lle yn y rowndiau terfynol.